Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched

Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched
Math
mudiad gwleidyddol
Sefydlwyd10 Hydref 1903
SefydlyddEmmeline Pankhurst, Christabel Pankhurst
Daeth i ben1917
PencadlysLlundain


Mudiad gwleidyddol i fenywod yn unig oedd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched neu Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (WSPU) sy'n gyfieithiad o the Women's Social and Political Union, sefydliad milwriaethus blaenllaw a ymgyrchai dros bleidlais i fenywod yng ngwledydd Prydain rhwng 1903 a 1917. O 1906 ymlaen, adnabyddid aelodau'r WSPU fel "swffragetiaid". Rheolwyd yr aelodaeth a pholisïau'r undeb yn dynn gan Emmeline Pankhurst a'i merched Christabel a Sylvia, er i Sylvia gael ei diarddel o'r undeb yn ddiweddarach. Ymgyrchai'r muduad dros ddiwygio cymdeithasol. Mabwysiadwyd y slogan "Deeds, not words". Erbyn 1913, penodwyd Nora Dacre Fox (neu Norah Elam) fel Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb.[1]

Daeth aelodaeth WSPU yn adnabyddus am anufudd-dod sifil a gweithredu uniongyrchol. Roedd yr aelodau'n aml yn defnyddio tactegau fel heclo (gweiddi ar draws gwleidyddion), cynnal gwrthdystiadau a gorymdeithiau, torri'r gyfraith a gorfodi'r heddlu i'w harestio, torri ffenestri mewn adeiladau amlwg, a rhoi blychau post ar dân. Ar ôl eu carcharu — aeth llawer o'r menywod hyn ar streic newyn, gan ddioddef cael eu bwydo drwy rym.

  1. McPherson, Angela; McPherson, Susan (2011). Mosley's Old Suffragette – A Biography of Nora Elam. ISBN 978-1-4466-9967-6. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-13. Cyrchwyd 2021-02-22.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search